Diogelwch

Mae defnyddio cyfrifiaduron, mynd ar y we a defnyddio teclynnau fel iPads yn cynnig cyfleodd addysgu gwych i blant. Mae'r rhyngrwyd yn cynnig storfa bron yn ddi-ben-draw o wybodaeth addysgol ddefnyddiol, gellir hefyd defnyddio'r dechnoleg i ymestyn gwaith creadigol y plant i greu lluniau, fideos, a chreu gwefannau eu hunain. Ac wrth gwrs mae modd eu defnyddio er mwyn adloniant - gwylio fideos, chwarae gemau neu wrando ar gerddoriaeth! Rydym fel ysgol yn hyrwyddo defnydd technoleg fel rhan greiddiol o addysg y plant, ac mae'n agwedd sy'n dod yn amlycach a phwysicach o flwyddyn i flwyddyn. Ond mae'r rhyngrwyd a thechnoleg hefyd yn cynnwys peryglon i blant, yn anffodus, ac felly mae'n hynod bwysig ein bod fel ysgol a rheini neu ofalwyr yn sicrhau bod ein plant yn dysgu sut i ddefnyddio'r pethau hyn yn ddiogel. Mae PC John (un o 18 Swyddog Cyswllt Ysgolion yr Heddlu) yn dod i'r ysgol yn rheolaidd i drafod gwahanol faterion â'r plant, ac meddai fod e-Ddioglewch yn fater hynod bwysig yn ein hysgolion, a cham ddefnydd o'r dechnoleg yn gallu creu problemau gwirioneddol. Mae PC John hefyd wedi cynnal noswaith yn trafod y peryglon gyda rhieni, gan drafod materion yn cynnwys: 1. Bwlio ar lein 2. Rhannu lluniau - (unwaith iddynt fynd ar y we maent yno am byth, a modd i unrhyw un eu rhannu) 3. Rhannu gwybodaeth/gormod o wybodaeth e.e. oed, cyfeiriad, lleoliad (location settings ar ddyfais) 4. Sgwrsio ar lein – (yn ystod gemau, neu dros gyswllt fideo – pwy sydd ar y pen arall 'go-iawn') 5. Cyfrineiriau (passwords) gwan. (perygl hacio) Mae'n fwriad gan yr ysgol i gynnal sesiynau codi ymwybyddiaeth/trafod ynghylch e- Ddiogelwch yn rheolaidd, o leiaf unwaith y flwyddyn, gan ei fod yn fater holl bwysig. Mae Llŷr Edwards (Tad Tomos, Cadog, Guto a Brychan) yn Llywodraethwr sydd â gofal dros Amddiffyn Plant ac e-Ddiogelwch. Os oes gennych bryderon ynghylch eich plentyn â'i ddefnydd o'r wê neu dechnoleg, neu os hoffech gyngor ar y mater, gofynnwch iddo. Nodir isod pwyntiau y dylai pob rhiant fod yn ymwybodol ohonynt Mae llawer o ddeunydd yn rhoi cyngor i chi ar waelod y dudalen hon Mae angen i bob rhiant/ofalwr a phlentyn lofnodi cytundeb e-Ddiogelwch yr ysgol Mae'r plant yn defnyddio'r we a theclynnau technolegol yn yr ysgol yn unol â pholisi e-Ddiogelwch yr ysgol Mae angen i rieni fod yn ymwybodol o sut mae eu plant yn defnyddio technoleg gartref, a'u helpu i fod yn ddiogel Mae Polisi e-Ddiogelwch yr ysgol ar gael i chi ei weld yn yr ysgol Os oes gennych bryderon ynghylch e-Ddiogelwch cysylltwch â'r Pennaeth neu Llŷr Edwards GWYBODAETH A DEUNYDD DEFNYDDIOL 1. Sut i osod gosodiadau ar y 'router' i atal deunydd annymuno BT - https://youtu.be/exoIdZ1yLFw?list=UUSGURayonindsMn_EYXx8Xg SKY - https://youtu.be/4adHW4e7HxQ TalkTalk - http://www.saferinternet.org.uk/advice-and-resources/parents-and- carers/parental-controls/talktalk Virgin Media - http://www.saferinternet.org.uk/advice-and-resources/parents- and-carers/parental-controls/virgin-media 2. Ap defnyddiol i helpu defnydd synhwyrol o declynnau Android ac Apple Screentime - https://screentimelabs.com/ 3. Dogfennau defnyddiol siarad yn ofalus ar-lein cefnogi pobl ifanc ar-lein secstio Pwyllo cyn rhannu Goroesi gwyliau'r haf 4. Gwefannau da School Beat SchoolBeat Bwlio Seibr SchoolBeat - Ffonau Symudol SchoolBeat - Diogelwch ar y we THINK YOU KNOW NSPCC Child.net Internet Matters Safer Internet 5. FACEBOOK Hoffwch dudalen NWP Cyber Crime Team / Tîm Troseddau Seiber Heddlu Gogledd Cymru ar Facebook Cofiwch na ddylai 'run o ddisgyblion yr ysgol gael tudalen Facebook, rhaid bod yn 13 cyn ei ddefnyddio
English

Cysylltu

efo Ni

Ysgol O.M. Edwards

Llanuwchllyn

Y Bala

Gwynedd

LL23 7UB

01678 540242

sion.jones@omedwards.ysgoliongwynedd.cymru

@YsgolOMEdwards

Ysgol O M Edwards © 2024 Website designed and maintained by H G Web Designs

Diogelwch

Mae defnyddio cyfrifiaduron, mynd ar y we a defnyddio teclynnau fel iPads yn cynnig cyfleodd addysgu gwych i blant. Mae'r rhyngrwyd yn cynnig storfa bron yn ddi-ben-draw o wybodaeth addysgol ddefnyddiol, gellir hefyd defnyddio'r dechnoleg i ymestyn gwaith creadigol y plant i greu lluniau, fideos, a chreu gwefannau eu hunain. Ac wrth gwrs mae modd eu defnyddio er mwyn adloniant - gwylio fideos, chwarae gemau neu wrando ar gerddoriaeth! Rydym fel ysgol yn hyrwyddo defnydd technoleg fel rhan greiddiol o addysg y plant, ac mae'n agwedd sy'n dod yn amlycach a phwysicach o flwyddyn i flwyddyn. Ond mae'r rhyngrwyd a thechnoleg hefyd yn cynnwys peryglon i blant, yn anffodus, ac felly mae'n hynod bwysig ein bod fel ysgol a rheini neu ofalwyr yn sicrhau bod ein plant yn dysgu sut i ddefnyddio'r pethau hyn yn ddiogel. Mae PC John (un o 18 Swyddog Cyswllt Ysgolion yr Heddlu) yn dod i'r ysgol yn rheolaidd i drafod gwahanol faterion â'r plant, ac meddai fod e-Ddioglewch yn fater hynod bwysig yn ein hysgolion, a cham ddefnydd o'r dechnoleg yn gallu creu problemau gwirioneddol. Mae PC John hefyd wedi cynnal noswaith yn trafod y peryglon gyda rhieni, gan drafod materion yn cynnwys: 1. Bwlio ar lein 2. Rhannu lluniau - (unwaith iddynt fynd ar y we maent yno am byth, a modd i unrhyw un eu rhannu) 3. Rhannu gwybodaeth/gormod o wybodaeth e.e. oed, cyfeiriad, lleoliad (location settings ar ddyfais) 4. Sgwrsio ar lein – (yn ystod gemau, neu dros gyswllt fideo – pwy sydd ar y pen arall 'go- iawn') 5. Cyfrineiriau (passwords) gwan. (perygl hacio) Mae'n fwriad gan yr ysgol i gynnal sesiynau codi ymwybyddiaeth/trafod ynghylch e- Ddiogelwch yn rheolaidd, o leiaf unwaith y flwyddyn, gan ei fod yn fater holl bwysig. Mae Llŷr Edwards (Tad Tomos, Cadog, Guto a Brychan) yn Llywodraethwr sydd â gofal dros Amddiffyn Plant ac e-Ddiogelwch. Os oes gennych bryderon ynghylch eich plentyn â'i ddefnydd o'r wê neu dechnoleg, neu os hoffech gyngor ar y mater, gofynnwch iddo. Nodir isod pwyntiau y dylai pob rhiant fod yn ymwybodol ohonynt Mae llawer o ddeunydd yn rhoi cyngor i chi ar waelod y dudalen hon Mae angen i bob rhiant/ofalwr a phlentyn lofnodi cytundeb e- Ddiogelwch yr ysgol Mae'r plant yn defnyddio'r we a theclynnau technolegol yn yr ysgol yn unol â pholisi e- Ddiogelwch yr ysgol Mae angen i rieni fod yn ymwybodol o sut mae eu plant yn defnyddio technoleg gartref, a'u helpu i fod yn ddiogel Mae Polisi e-Ddiogelwch yr ysgol ar gael i chi ei weld yn yr ysgol Os oes gennych bryderon ynghylch e-Ddiogelwch cysylltwch â'r Pennaeth neu Llŷr Edwards GWYBODAETH A DEUNYDD DEFNYDDIOL 1. Sut i osod gosodiadau ar y 'router' i atal deunydd annymuno BT - https://youtu.be/exoIdZ1yLFw?li st=UUSGURayonindsMn_EYXx8 Xg SKY - https://youtu.be/4adHW4e7Hx Q TalkTalk - http://www.saferinternet.org.uk /advice-and-resources/parents- and-carers/parental- controls/talktalk Virgin Media - http://www.saferinternet.org.uk /advice-and-resources/parents- and-carers/parental- controls/virgin-media 2. Ap defnyddiol i helpu defnydd synhwyrol o declynnau Android ac Apple Screentime - https://screentimelabs.com/ 3. Dogfennau defnyddiol siarad yn ofalus ar-lein cefnogi pobl ifanc ar-lein secstio Pwyllo cyn rhannu Goroesi gwyliau'r haf 4. Gwefannau da School Beat SchoolBeat Bwlio Seibr SchoolBeat - Ffonau Symudol SchoolBeat - Diogelwch ar y we THINK YOU KNOW NSPCC Child.net Internet Matters Safer Internet 5. FACEBOOK Hoffwch dudalen NWP Cyber Crime Team / Tîm Troseddau Seiber Heddlu Gogledd Cymru ar Facebook Cofiwch na ddylai 'run o ddisgyblion yr ysgol gael tudalen Facebook, rhaid bod yn 13 cyn ei ddefnyddio

Cysylltu efo Ni

Ysgol O.M. Edwards

Llanuwchllyn

Y Bala

Gwynedd

LL23 7UB

Ysgol O M Edwards © 2024

Website designed and maintained by H G Web Designs

01678 540242

sion.jones@omedwards.

ysgoliongwynedd.cymru

@YsgolOMEdwards