Nepal

Dinasyddiaeth Byd Eang Cyswllt gydag Ysgol Jaleshwary, Nepal. Un elusen rydym wedi bod yn rhan ohoni a chyd weithio gyda phartneriaeth Y Cyngor Prydeinig ydi ein cyswllt agos ag Ysgol Jaleshwary yn Nepal. Ysgol sydd tua 3 awr allan o’r brifddinas yn Kathmandu, mewn pentref bychan Salang yn ardal Dhading. Mae Dilys Ellis-Jones wedi bod yno ar sawl achlysur ac maer disgyblion yma wedi bod yn cefnogi y disgyblion yno dros y blynyddoedd drwy yrru llyfrau, cyfrifiaduron, llythyrau a chardiau. Yn ystod gaeaf 2021 bu i helpu i brynu dillad cynnes ar gyfer plant Ysgol Kalidevi, Dhading. Un fenter ddiddorol oedd disgyblion y Cyfnod Sylfaen yn gwerthu eu comic roeddent wedi greu a phrynu ieir i rai o ddisgyblion Ysgol Jaleshwary. Yn sicr mae Ysgol O.M.Edwards wedi elwa yn fawr iawn o’r cyswllt yma – gan fod y plant yn dysgu am ddiwylliant a crefyddau gwahanol sydd yn werthfawr a difyr iawn. Cant adnabyddiaeth dda o bobl a phlant eraill ar draws y byd sydd a bywydau mor wahanol i ni yma. Rydym ni wedi derbyn dillad, nwyddau a masgiau i’r plant yma gael eu defnyddio. Bu i’r ysgol helpu yn ystod Daeargryn mawr Nepal, yn Ebrill, 2015 pan darwyd y wlad yn syfrdanol. Roedd y disgyblion yn gallu gwylio’r newyddion yn ddyddiol ac wedi penderfynu rhoi cymorth mewn unrhyw ffordd bosib. Bu i ni yrru dillad, bwyd a llyfrau i blant yr ysgol. Gyda datblygiad TGch mae wedi bod yn llawer haws i ni fel ysgol gysylltu gyda Mr Hari Tripathi sydd yn rhan o Lywodraethwyr Ysgol Jaleshwary i’w holi a trafod gyda fo am wahanol destunau, yn ystod ein dathliad Diwali/Dashain bob blwyddyn.
English

Cysylltu

efo Ni

Ysgol O.M. Edwards

Llanuwchllyn

Y Bala

Gwynedd

LL23 7UB

01678 540242

sion.jones@omedwards.ysgoliongwynedd.cymru

@YsgolOMEdwards

Ysgol O M Edwards © 2024 Website designed and maintained by H G Web Designs

Cysylltu efo Ni

Ysgol O.M. Edwards

Llanuwchllyn

Y Bala

Gwynedd

LL23 7UB

Ysgol O M Edwards © 2024

Website designed and maintained by H G Web Designs

Bore Coffi MacMillan

01678 540242

sion.jones@omedwards.

ysgoliongwynedd.cymru

@YsgolOMEdwards