Hanes yr Ysgol

Cafodd yr ysgol ei henwi ar ôl un o feibion enwocaf Llanuwchllyn, sef Syr O.M.Edwards (1858-1920). Cafodd ei eni yng Nghoed–y-pry, daeth yn diwtor yn Rhydychen, a bu am flynyddoedd yn aelod seneddol dros Feirionnydd. Yn 1907, cafodd ei ddyrchafu i fod yn brif arolygydd ysgolion Cymru – y cyntaf i’w benodi i’r swydd honno. Gwnaeth waith aruthrol i addysg Cymru ac ym myd cyhoeddi llyfrau Cymraeg i oedolion a phlant. Ei fab oedd Syr Ifan Ab Owen Edwards, sylfaenydd Urdd Gobaith Cymry. Mae cofgolofn i’r ddau wrth yr ysgol. Ein braint yw cael bod yng nghysgod y ddau arbennig yma, a chawn ein hysbrydoli’n aml gan eu gwaith a’u doethineb. Yn 2013 cafodd yr ysgol ei hagor ar ei newydd wedd – rydym wedi cael estyniad o ddau ddosbarth newydd, ail newid y dosbarthiadau a chael stafell STEM newydd ar gyfer y disgyblion. Mae trawsnewidiad mawr wedi digwydd ers yr hen adeilad. Mae’r disgyblion yn ffodus iawn o fod yn dysgu mewn adeilad modern gyda’r holl dechnoleg o’i cwmpas. Am fwy o wybodaeth ewch i www.llanuwchllyn.cymru
English

Cysylltu

efo Ni

Ysgol O.M. Edwards

Llanuwchllyn

Y Bala

Gwynedd

LL23 7UB

01678 540242

sion.jones@omedwards.ysgoliongwynedd.cymru

@YsgolOMEdwards

Ysgol O M Edwards © 2024 Website designed and maintained by H G Web Designs

Hanes yr

Ysgol

Cafodd yr ysgol ei henwi ar ôl un o feibion enwocaf Llanuwchllyn, sef Syr O.M.Edwards (1858-1920). Cafodd ei eni yng Nghoed–y-pry, daeth yn diwtor yn Rhydychen, a bu am flynyddoedd yn aelod seneddol dros Feirionnydd. Yn 1907, cafodd ei ddyrchafu i fod yn brif arolygydd ysgolion Cymru – y cyntaf i’w benodi i’r swydd honno. Gwnaeth waith aruthrol i addysg Cymru ac ym myd cyhoeddi llyfrau Cymraeg i oedolion a phlant. Ei fab oedd Syr Ifan Ab Owen Edwards, sylfaenydd Urdd Gobaith Cymry. Mae cofgolofn i’r ddau wrth yr ysgol. Ein braint yw cael bod yng nghysgod y ddau arbennig yma, a chawn ein hysbrydoli’n aml gan eu gwaith a’u doethineb. Yn 2013 cafodd yr ysgol ei hagor ar ei newydd wedd – rydym wedi cael estyniad o ddau ddosbarth newydd, ail newid y dosbarthiadau a chael stafell STEM newydd ar gyfer y disgyblion. Mae trawsnewidiad mawr wedi digwydd ers yr hen adeilad. Mae’r disgyblion yn ffodus iawn o fod yn dysgu mewn adeilad modern gyda’r holl dechnoleg o’i cwmpas. Am fwy o wybodaeth ewch i www.llanuwchllyn.cymru

Cysylltu efo Ni

Ysgol O.M. Edwards

Llanuwchllyn

Y Bala

Gwynedd

LL23 7UB

Ysgol O M Edwards © 2024

Website designed and maintained by H G Web Designs

01678 540242

sion.jones@omedwards.

ysgoliongwynedd.cymru

@YsgolOMEdwards