Eco

Mae disgyblion Ysgol O M Edwards wedi profi eu nodweddion gwyrdd ar ôl llwyddo i ennill gwobr amgylcheddol arbennig. Mae Ysgol O M Edwards wedi cael y Wobr Baner Blatinwm nodedig ar ôl llwyddo i gael tair Gwobr Baner Werdd yn y gorffennol, diolch i'r rhaglen addysg amgylcheddol, Eco-Sgolion. Mae Eco-Sgolion yn rhaglen ryngwladol sy’n cael ei chynnal yng Nghymru gan yr elusen amgylcheddol Cadwch Gymru'n Daclus, ac mae’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae dros 90% o ysgolion Cymru wedi cofrestru â’r rhaglen. Mae Eco-Sgolion yn ysbrydoli ac yn grymuso disgyblion i arwain newid yn eu cymunedau, ac yn eu helpu i ddysgu am fyw’n gynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang. Mae hefyd yn rhoi’r wybodaeth a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnyn nhw i wneud newidiadau a fydd o fudd i’w hysgol, yr amgylchedd lleol a’r gymuned ehangach – fel lleihau gwastraff, defnyddio ynni, trafnidiaeth, bioamrywiaeth, byw’n iach a phroblemau sbwriel.
Cynhadledd Cyngor Eco
English

Cysylltu

efo Ni

Ysgol O.M. Edwards

Llanuwchllyn

Y Bala

Gwynedd

LL23 7UB

01678 540242

sion.jones@omedwards.ysgoliongwynedd.cymru

@YsgolOMEdwards

Ysgol O M Edwards © 2024 Website designed and maintained by H G Web Designs

Eco

Mae disgyblion Ysgol O M Edwards wedi profi eu nodweddion gwyrdd ar ôl llwyddo i ennill gwobr amgylcheddol arbennig. Mae Ysgol O M Edwards wedi cael y Wobr Baner Blatinwm nodedig ar ôl llwyddo i gael tair Gwobr Baner Werdd yn y gorffennol, diolch i'r rhaglen addysg amgylcheddol, Eco- Sgolion. Mae Eco-Sgolion yn rhaglen ryngwladol sy’n cael ei chynnal yng Nghymru gan yr elusen amgylcheddol Cadwch Gymru'n Daclus, ac mae’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae dros 90% o ysgolion Cymru wedi cofrestru â’r rhaglen. Mae Eco-Sgolion yn ysbrydoli ac yn grymuso disgyblion i arwain newid yn eu cymunedau, ac yn eu helpu i ddysgu am fyw’n gynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang. Mae hefyd yn rhoi’r wybodaeth a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnyn nhw i wneud newidiadau a fydd o fudd i’w hysgol, yr amgylchedd lleol a’r gymuned ehangach – fel lleihau gwastraff, defnyddio ynni, trafnidiaeth, bioamrywiaeth, byw’n iach a phroblemau sbwriel.

Cysylltu efo Ni

Ysgol O.M. Edwards

Llanuwchllyn

Y Bala

Gwynedd

LL23 7UB

Ysgol O M Edwards © 2024

Website designed and maintained by H G Web Designs

Cynhadledd Cyngor Eco

01678 540242

sion.jones@omedwards.

ysgoliongwynedd.cymru

@YsgolOMEdwards